Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Adroddiad: CLA(4)-11-11 : 14 Tachwedd 2011

 

Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiadau a ganlyn i’r Cynulliad:

 

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol

 

CLA51 - Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2011

Gweithdrefn: Negyddol

Fe’u gwnaed:1 Tachwedd 2011

Fe’u gosodwyd:2 Tachwedd 2011

Dyddiad dod i rym:30 Tachwedd 2011

 

CLA54 - Rheoliadau Cwmnïau RTM (Erthyglau Enghreifftiol) (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Negyddol

Fe’u gwnaed:5 Tachwedd 2011

Fe’u gosodwyd:8 Tachwedd 2011

Dyddiad dod i rym:30 Tachwedd 2011

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol

 

CLA50 - Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Fe’i gwnaed:heb ei nodi

Fe’i gosodwyd:heb ei nodi

Dyddiad dod i rym:1 Rhagfyr 2011

 

Offerynnau sy’n cynnwys materion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol

 

CLA48 - Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011

Gweithdrefn: Negyddol

Fe’u gwnaed:25 Hydref 2011

Fe’u gosodwyd:27 Hydref 2011

Dyddiad dod i rym:21 Tachwedd 2011

 

CLA49 - Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) (Diwygio) 2011

Gweithdrefn: Negyddol

Fe’i gwnaed:31 Hydref 2011

Fe’i gosodwyd:1 Tachwedd 2011

Dyddiad dod i rym:22 Tachwedd 2011

 

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiadau hyn o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3. Ceir copi ohonynt yn Atodiadau 1 a 2.

 

Busnes arall

 

Ymchwiliadau’r Pwyllgor: Ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Mr Mike Lewis, y Prif Weithredwr a Ms Daisy Cole, Pennaeth Dylanwadu, Cysylltiadau Cyhoeddus a Pholisi Plant, ill dau yn cynrychioli Cyngor Ffoaduriaid Cymru.

 

Penderfyniad i gwrdd yn breifat

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi) penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod i drafod cyflwyniad y Pwyllgor i’r Comisiwn Bil Iawnderau a’r dystiolaeth a gyflwynwyd hyd yn hyn i’r Ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU.

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

14 Tachwedd 2011


Atodiad 1

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

(CLA(4)-11-11)

 

CLA48

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r derminoleg yn Rheoliadau’r Cynllun

Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 (y prif Reoliadau) er mwyn sicrhau

cysondeb â deddfwriaeth arall o dan Ddeddf Gwastraff a Masnachu

Allyriadau 2003 (y Ddeddf).

 

Materion technegol: craffu

 

Gan nad yw’r Rheoliadau yn cyfeirio at yr holl bwerau a ddefnyddiwyd i wneud y prif Reoliadau, mae angen bod yn ofalus iawn i gyfeirio at y rhai cywir wrth wneud diwygiadau. Yn yr achos yma ni chyfeirir yn y paragraff rhagarweiniol at adrannau 12(2) a 15 o’r Ddeddf, y bernir eu bod yn berthnasol i’r diwygiadau a wneir yma i reoliadau 6 a 10, yn eu tro, o’r prif Reoliadau.

 

Gwahoddir y Cynulliad i dalu sylw arbennig i’r offeryn hwn o dan Reol Sefydlog 21.2 (vi).

 

Rhinweddau: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i’w hadrodd o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

14 Tachwedd 2011

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011

 

Adran 12

 

Mae'r Llywodraeth yn derbyn pwynt y Pwyllgor am adran 12(2) y dylasid ei henwi yn y pwerau galluogi. Adran 12(2) yw'r pŵer y caniateir diwygio rheoliad 6(5)(b) o'r prif reoliadau odani. Mae diwygiadau i weddill rheoliad 6 wedi eu gwneud o dan adran 12(1) o'r Ddeddf.

 

Mae'r Llywodraeth yn cydnabod ei bod yn bosibl y bydd yr hepgoriad hwnnw yn peri i rywun amau a yw diwygiad i reoliad 6(5)(b) o'r prif reoliadau wedi ei wneud ai peidio. Er ei bod yn annhebygol, ym marn y Llywodraeth, y gellid dehongli'r term "gwastraff trefol pydradwy" fel petai'n perthyn i unrhyw beth ond y gwastraff y mae awdurdodau gwaredu gwastraff yn ymdrin ag ef o dan y cynllun lwfansau tirlenwi, bydd y Llywodraeth yn gwneud rheoliadau i ddiwygio rheoliad 6(5)(b) o'r prif reoliadau cyn pen chwe wythnos.

 

Adran 15

 

Mae'r Llywodraeth o'r farn bod y diwygiadau i reoliad 10 o'r prif reoliadau wedi eu hawdurdodi gan adran 11(1) a (2)(b) o'r Ddeddf a bod bod adran 15 o'r Ddeddf yn ymwneud â gwybodaeth o fath gwahanol y mae rheoliad 10 o'r prif reoliadau yn ymdrin â hi ar hyn o bryd. Casgliad y Llywodraeth yw bod enwi adran 12 yn y prif reoliadau yn gamgymeriad. Dyma isod y rhesymau sydd wedi ein harwain at y casgliad hwn.

 

Mae dwy ddarpariaeth yn y Ddeddf sy'n rhoi pŵer i wneud darpariaeth am gynnal cofrestrau; adrannau 11 a 15.

 

Mae adran 11(1) o'r Ddeddf yn rhoi pŵer i wneud darpariaeth at ddiben dwyn Pennod 1 o'r Ddeddf i effaith. Drwy adran 11(2)(b), mae'r rheoliadau hynny yn gallu gwneud darpariaeth am gynnal cofrestrau o faterion sy'n ymwneud â lwfansau tirlenwi.

 

Mae adran 15 o'r Ddeddf yn fwy penodol ac mae'n rhoi pŵer i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod monitro gynnal cofrestr sy'n cynnwys "gwybodaeth fonitro" o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau. Ystyr "gwybodaeth fonitro" yw gwybodaeth neu dystiolaeth:

 

-     y mae'r awdurdod monitro wedi ei chael wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf; neu

-     a ddatgelir i'r awdurdod monitro gan awdurdod monitro arall sydd wedi cael yr wybodaeth neu dystiolaeth wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau ei hun o dan y Ddeddf.

 

Mae'r Llywodraeth yn dehongli "acquire" ("cael") a "disclose" ("datgelu") yn adran 15 i olygu bod yr wybodaeth neu'r dystiolaeth dan sylw yn wybodaeth neu'n dystiolaeth sydd, yn y lle cyntaf, ym meddiant rhywun nad yw'n awdurdod monitro ac sydd wedyn yn mynd i ddwylo'r awdurdod monitro wrth iddo gyflawni ei rôl fonitro o dan y cynllun lwfansau tirlenwi.

 

Deuwn at y casgliad hwn oherwydd natur rôl yr awdurdod monitro o dan y Ddeddf ac felly'r cyd-destun y mae awdurdod monitro yn debygol o gael yr wybodaeth a'r dystiolaeth ynddo, neu gael yr wybodaeth a'r dystiolaeth wedi eu datgelu iddo.

 

At ei gilydd, rôl awdurdod monitro yw monitro gweithrediad cynllun lwfansau tirlenwi yn gyffredinol, monitro pa faint o wastraff trefol pydradwy a anfonir i safleoedd tirlenwi yn enwedig ac archwilio perfformiad yr awdurdodau gwaredu gwastraff o ran sut y maent yn cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Ddeddf.

 

I alluogi awdurdod monitro i gyflawni ei rôl, mae'r Ddeddf yn caniatáu rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau gwaredu gwastraff i ddarparu gwybodaeth benodol yn rheolaidd i'r awdurdod monitro (anfon dychweliadau). Mae'r Ddeddf hefyd yn caniatáu rheoliadau i ganiatáu i'r awdurdod monitro ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gwaredu gwastraff i gyflwyno cofnodion i'w harchwilio ac i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth sy'n ymwneud ag anfon gwastraff trefol pydradwy i safleoedd tirlenwi.

 

Ar ben hynny, mae'r Ddeddf yn caniatáu rheoliadau i ganiatáu i'r awdurdod monitro gael gafael ar gofnodion gweithredyddion safleoedd tirlenwi, drwy ddefnyddio grym os oes rhaid.

 

Mae'r Llywodraeth yn barnu mai yn cyd-destun hwn y bydd yr awdurdod monitro yn "cael" gwybodaeth neu dystiolaeth ac felly fe fydd gwybodaeth a "ddatgelir" i awdurdod monitro yn wybodaeth o'r un fath a geir mewn cyd-destun tebyg gan awdurdod monitro arall.

Nid yw rheoliad 10 o'r prif reoliadau yn ymwneud â'r math hwn o wybodaeth. Yn hytrach, mae'n ymwneud â'r canlynol:

 

(a)  gwybodaeth a ddaw i fodolaeth o ganlyniad i benderfyniadau a wneir ac a gyhoeddir o dan y Ddeddf gan Weinidogion Cymru; hynny yw, y lwfansau a ddyrennir i bob awdurdod gwaredu gwastraff o dan adran 4 o'r Ddeddf ac unrhyw newidiadau i'r dyraniadau hynny a wneir o dan adran 5 o'r Ddeddf; a

 

(b) gwybodaeth y mae'r awdurdod monitro ei hun ei chreu; hynny yw:

 

(i)   maint y gwastraff trefol pydradwy a anfonir i safleoedd tirlenwi gan bob awdurdod gwaredu gwastraff; a

 

(ii) y gwahaniaeth rhwng y maint hwnnw a'r maint y mae'r awdurdod gwaredu gwastraff yn dal lwfansau tirlenwi ar ei gyfer.

 

Ceir yr wybodaeth yn (i) drwy gymhwyso ffactor statudol o 61% i'r maint o wastraff trefol a gasglwyd a anfonir i safle tirlenwi gan awdurdod gwaredu gwastraff. Fe geir peth o'r wybodaeth y mae ei hangen i wneud y cyfrifiad hwn yng nghofnodion awdurdod gwaredu gwastraff a gwybodaeth benodol a anfonir yn rheolaidd (dychweliadau) i'r awdurdod monitro a bydd yr awdurdod monitro yn "cael" y cofnodion hynny a'r wybodaeth honno wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf. Nid yw'r Llywodraeth o'r farn y bydd y awdurdod monitro yn "cael" y cyfrifiad sy'n deillio o'r broses honno nac y bydd y cyfrifiad hwnnw yn cael ei "ddatgelu" iddo drwy'r broses honno.

 

Fe geir yr wybodaeth yn (ii) drwy dynnu'r maint yn (i) oddi wrth nifer y lwfansau a ddelir gan yr awdurdod ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 4 ac/ neu 5 o'r Ddeddf. Unwaith eto, nid yw'r Llywodraeth o'r farn bod y cyfrifiad sy'n deillio o'r broses honno yn wybodaeth y mae'r awdurdod monitro yn "cael" nac yn wybodaeth neu'n dystiolaeth a "ddatgelir" iddo.

 

Am y rhesymau hyn mae'r Llywodraeth o'r farn bod y ddarpariaeth a wnaed yn rheoliad 10 o'r prif reoliadau wedi ei hawdurdodi gan adran 11(1) a (2)(b) o'r Ddeddf.

 

 

 

 


Atodiad 2

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


(CLA(4)-11-11)

 

CLA49

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) (Diwygio) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) 2010 drwy ddarparu, mewn cysylltiad â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011, mai 31 Ionawr yn y flwyddyn ariannol y cynhaliwyd yr archwiliad ynddi neu y mae'r asesiad yn ymwneud â hi fydd y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid anfon yr adroddiad.

 

Materion Technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i’w hadrodd o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

Gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn hwn o dan Reol Sefydlog 21.3(ii), sef ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Gwnaed y Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) 2010 yn Saesneg yn unig, er ei fod yn Orchymyn byr, a chyhoeddwyd adroddiad beirniadol ar y Gorchymyn gan y cyn Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol am y rheswm hwnnw. Atodir copi o’r adroddiad hwnnw i’r ddogfen hon.

 

Gwnaed y Gorchymyn presennol yn ddwyieithog. Serch hynny, gan fod y Gorchymyn wedi’i ddrafftio fel Gorchymyn diwygio, mae’r diwygiad a wnaed i Orchymyn 2010 yn Saesneg yn unig, ac mae’r gyfraith o sylwedd yn parhau i fod yn Saesneg yn unig. Pe bai’r Gorchymyn presennol wedi dirymu a disodli Gorchymyn 2010, byddai hynny wedi arwain at eitem o ddeddfwriaeth ddwyieithog yn cymryd lle datganiad o’r gyfraith yn Saesneg.

 

Mae’r enghraifft hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod dwyieithrwydd yn hytrach na chyfieithu yn elfen greiddiol o’r broses ddeddfu. Mae’n dangos yr angen hefyd i ystyried adroddiadau a gyhoeddwyd eisoes gan y Pwyllgor hwn a’i rhagflaenwyr wrth ddrafftio deddfwriaeth ar yr un pwnc.

 

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

14 Tachwedd 2011

 

ATODIAD

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

 

CA(3)-01-11

 

CA508: Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) 2010

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae Adran 19 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn ei gwneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru gyhoeddi adroddiad archwilio ac asesu mewn cysylltiad â phob awdurdod gwella Cymreig. Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 19(3)(a) o’r Mesur mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol a gychwynodd ar 1 Ebrill 2010, drwy ymestyn y terfyn amser y mae’n rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gadw ato o ran anfon copi o’r adroddiadau at Weinidogion Cymru ac at yr awdurdod gwella Cymreig perthnasol. Newidier y dyddiad ar gyfer anfon ei adroddiad o 30 Tachwedd 2010 i 31 Ionawr 2011.

 

Materion Technegol: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 15.2, bydd y Cynulliad yn cael ei wahodd i roi sylw arbennig i'r offeryn a ganlyn:-

 

1. Gwnaed y Gorchymyn yn yr iaith Saesneg yn unig. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn cynnwys y datganiad a ganlyn: “The Minister for Social Justice and Local Government has further determined in this particular circumstance that it is not reasonable or practicable for the order to be made in English and Welsh.”

 

Fodd bynnag, mae’r Gorchymyn, gan gynnwys y Memorandwm Esboniadol, yn 392 o eiriau o hyd, sef hanner maint y llythyr atodol sydd wedi’i gyfieithu ac sy’n egluro’r rhesymau dros dorri’r rheol 21 diwrnod. Yn ogystal â hyn, ar wahân i’r derminoleg safonol a ddefnyddir ar gyfer Offerynnau Statudol, yr un yw’r derminoleg a ddefnyddir yn y Gorchymyn a’r derminoleg a ddefnyddir yn y llythyr. O dan yr amgylchiadau hynny, nid yw’n glir pam yr ystyriwyd ei bod yn afresymol neu’n anymarferol i wneud Gorchymyn dwyieithog.

 

[Rheol Sefydlog 15.2(ix)]

 

Rhagoriaethau: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i’w hadrodd o dan Reol Sefydlog 15.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

 

Tachwedd 2010

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru o’r farn nad oedd cyfieithu Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) 2010 yn rhesymol nac yn ymarferol yn yr achos hwn o gofio’r cyfyngiadau amser a wynebwyd wrth wneud y Gorchymyn. Mae’r sylwadau ynghylch y llythyr atodol wedi eu nodi. Fodd bynnag, yr oedd gofyn cael cyfieithiad cyfreithiol a gwirio’r Gorchymyn. Nid oedd yn bosibl cyflawni hyn o fewn y cyfnod a roddwyd.